P-05-880 Mae Cymru yn prysur golli ei henw da o ran cerddoriaeth, a’i threftadaeth
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Active Music Services, ar ôl casglu 1,745 o lofnodion ar-lein a 481 ar bapur, sef cyfanswm o 2,226 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
* Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i lunio Cynllun Cenedlaethol brys ar gyfer Addysg Cerddoriaeth gydag arian canolog penodol, yn unol â gweddill y DU. Bydd hyn yn sicrhau bod gwersi offerynnau cerdd a hyfforddiant llais fforddiadwy ar gael fel hawl i bob plentyn yng Nghymru.
* Mae'r Gwasanaethau Cerddoriaeth yng Nghymru yn rhan annatod o ddatblygiad Addysg Cerddoriaeth fel rhan o'r cwricwlwm creadigol ar draws pob maes.
* Mae'r cyfraniad a wneir gan y diwydiant a'r gwasanaethau cerddoriaeth i economi a llesiant pobl Cymru yn rhy bwysig i'w anwybyddu.
* Mae nifer y bobl ifanc sy'n astudio cerddoriaeth ar lefel Uwch yng Nghymru wedi haneru mewn deng mlynedd ac mae nifer y cofrestriadau ar gyfer arholiadau TGAU wedi lleihau 40 y cant.
* Nid yw cyni yn esgus i Lywodraeth Cymru ganiatáu dirywiad ein Gwasanaethau Cerddoriaeth. Dylai cyni fod yn rheswm dros fuddsoddi yn yr hawl cyfartal i bawb gael gwasanaethau, a chynaliadwyedd ein cymunedau.
Arwyddwch y ddeiseb hon i gefnogi'r ymgyrch i atal dirywiad Addysg Cerddoriaeth yng Nghymru.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Cwm Cynon
· Canol De Cymru